Sunday, 1 February 2009

Ewrob- cur pen ond cyfle hefyd

Fel cenedlaetholwr Cymreig, mae'n debyg mod i fel llawer i un arall wedi llyncu'r mantra hynny sydd wedi'i hyrwyddo'n gyson gan y mudiad cenedlaethol dros y blynyddoedd. Hynny yw bod Ewrop yn cynnig gobaith newydd i genhedloedd bychain a'i fod yn ein hanes ni yma yng Nghymru yn rhoi cyfle i wanio gafael San Steffan a'r model Brydeinig dros ein bywydau. Roedd canoli grym ym Mrussel felly yn rhywbeth i'w groesawu a'i gofleidio. Tydwi ddim mor siwr erbyn hyn. Mae'n ymddangos imi bod Ewrop wedi esgor ar elite llywodraethol sydd yr un fath yn union a'r elite llywodraethol sydd wedi ein rheoli o Lundain ers canrifoedd, ac mai'r un gwerthoedd top-down biwrocrataidd sydd yn teyrnasu yno hefyd. Mae'r arweinwyr yn dweud wrthym mai integreiddio Ewropeaidd ar lefel wleidyddol sydd wedi rhwystro rhyfela mawr yn Ewrop ers yr ail ryfel byd a bod angen symud yr integreiddio hyn ymlaen ymhellach.

Yn anffodus, mae'n ymddangos mai pwrpas arall fu creu clwb gwleidyddol newydd gyda'u strwythur gyrfaol newydd ar gyfer arweinwyr a chyn-arweinyddion gwladwriaethau mawrion.Mae hanes y Kinnockiaid, y fam a'r tad a'r ddau o blant yn enghraifft berffaith o hynny wrth gwrs. Mi faswn i'n dadlau mai ar lefel arall y mae'r hynny o integreiddio ewropeaidd a welwyd ers yr ail ryfel byd wedi digwydd go iawn a hynny ar lefel ddiwylliannol a chymdeithasol wrth i fwy o bobl deithio o gwmpas y cyfandir a dod i adnabod gwledydd a diwylliannau newydd a phobl yn y llefydd hyn. Beth sydd ar goll ydi bod y bobl hynny ddim wedi bod yn rhan o'r broses i lunio'r integreiddio economaidd naturiol allai fod wedi dilyn yn naturiol o'r cysylltiadau diwylliannol a chymdeithasol. Yr Elites llywodraethol sydd wedi bod yn gyfrifol am hynny, ac mae eu polisiau hwy wedi creu ac yn dal i greu problemau mawr i bob rhan o Ewrop.Wrth fynnu ar integreiddio gwleidyddol gyntaf uwchlaw popeth, mae gynno ni sefyllfa sydd yn gwbl anwastad ac anghynaladwy, gydag ambell i economi gref yn gorfod dilyn yr un patrwm a'r un rheolau a'r PIGS bondigrybwyll( Portiwgal, Eidal, Groeg) sef yr economiau gwannaf , gydag Iwerddon a Phrydain hefyd bellach yn curo ar ddrws y cwt. Mae grym y gwladwriaethau unigol hyn i greu atebion eu hunain ac i addasu polisiau economaidd i weddu eu sefyllfaoedd eu hunain wedi diflannu i bob pwrpas. Sut all hynny fod yn llesol yn y pendraw?

Sy'n dod a ni at y protestiadau presennol gan y gweithwyr olew. Mae rhai o'r farn mai casineb at dramorwyr sydd wrth wraidd y brotest ond mae mwy iddi na hynny. Cwmni o'r Eidal enillodd y tendr am y gwaith ac o dan reolau'r GE mae ganddyn nhw'r hawl i ddod a gweithwyr i mewn o unrhyw le. A be mae cwmniau fel hyn yn bownd o wneud? Wel, dod a gweithwyr i mewn sy'n barod i weithio am gyflogau is gan barhau a dwysau'r model neo-ryddfrydol hyn sydd wedi ei chofleidio gan y GE a chreu llawer o'n problemau cyfoes ni. Pe bai yna gymalau ynghylch cynnal lefel cyflogau neu sicrhau bod canran bendant o weithwyr lleol yn cael eu cyflogi ar brosiectau fel hyn, efallai na fyddai cymaint o broblemau yn bodoli. Ond wrth gwrs does dim ffasiwn gymalau yn bod yn y model.

Mae digwyddiadau fel hyn a phrotestiadau tebyg i'r un a gafwyd gan y gweithwyr olew yn siwr o gryfhau sefyllfa'r BNP ac UKIP gan fod Llafur/Ceidwadwyr i'w weld mor ddiymadferth ynghylch Ewrop a'r model ewropeaidd sydd ar waith. Yn reddfol, mae'n siwr na fyddai cenedlaetholwyr Cymreig am weld y BNP yn elwa, ond tybed a fyddai cynnydd ym mhoblogrwydd UKIP yn beth mor ddrwg a hynny? Wedi'r cwbl, yr hyn y mae UKIP yn alw amdano bellach ydi creu seneddau sofran yn Lloegr, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon a chreu ffederaliaeth Brydeinig fyddai'n optio allan o'r GE wleidyddol ond yn parhau i fasnachu ac i gyd-weithredu hefo cyfandir Ewrop. I'r rhai ohonom sydd am weld grym yn cael ei gadw mor leol a phosib, siawns bod hynny'n gwneud synnwyr, waeth bwy sydd yn ei hyrwyddo. Yr eironi i genedlaetholwyr Cymreig bellach ydi y gallai cynnydd yn y gefnogaeth i UKIP fod yn help nid yn rhwystr wrth geisio chwalu'r model gwleidyddol Brydeinig bresennol. Rhyfedd o fyd.