Fory( Dydd Sadwrn) bydd Cwmni Dyddiol Cyf. yn cyfarfod yn Aberystwyth i benderfynu beth y dylid ei wneud hefo'r cwmni wedi penderfyniad y Glymblaid i beidio ag ariannu Y Byd.
Dwi'n mawr obeithio y bydd y cyfran-ddalwyr yn penderfynu i ddal ati i gynnal y freuddwyd o bapur dyddiol Cymraeg, ond dwi'n meddwl mai'r cam cyntaf ar gyfer gwneud hynny ydi cydnabod ei bod hi'n amen ar Y Byd. Er mod i'n un o'r rhai hynny oedd yn frwd iawn dros weld Y Byd yn ymddangos, gyda synnwyr trannoeth roedd yna resymau digon dilys dros wrthod y syniad arbennig hwn. Roedd y marchnata ei hun yn druenus iawn,ac fe gollwyd llawer o fomentwm yn dilyn y cyfres o ddydiadau lawnsio gwahanol a nodwyd ac a newidwyd. Hercian mynd oedd Y Byd erbyn y diwedd yn hytrach na charlamu tuag at y llinell derfyn. Bron nad oedd rywun yn gweld Rhodri Glyn fel fet a benderfynodd ei bod hi'n hwyr glas rhoi diwedd ar ddioddefaint yr anifail anwes arbennig hwn.
Ar ben hynny roedd yr amseriad hefyd yn anffodus a bod yn berffaith onest. Doedd Plaid Cymru ddim am weld y posibilrwydd o un o'u mesurau llywodraethol cyntaf yn methu gan y byddai hynny wedi bod yn ergyd fawr i'w hygrededd fel plaid reolaethol. Ond, fe all 2011 ac etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn honno fod yn adeg mwy priodol a ffafriol ar gyfer lawnsio papur dyddiol Cymraeg. Mae'n bur debyg y bydd PC wedi bod yn rhannu grym ers 4 blynedd erbyn hynny, ac y bydd ganddyn nhw fwy o gynrychiolaeth yn y senedd. Bydd Llafur ar y llaw arall yn dipyn gwannach o ystyried y chwalfa etholiadol sydd yn siwr o ddod i'w rhan nhw ar lefel Brydeinig yn 2010: efallai'n wir mai nid clymbleidio hefo nhw y bydd PC yn 2011. Bydd hi'n dipyn haws i wneud yr achos dros gyflwyno papur dyddiol Cymraeg mewn amgylchiadau felly.
Sut fath o bapur felly? Wel, mi hoffwn i weld Cwmni Dyddiol yn mynd am opsiwn newydd, sef papur hybrid allai apelio at ddysgwyr Cymraeg da a Chymry Cymraeg fel ei gilydd. Dwi'n meddwl byddai modd creu arddull sgwrsiog, fywiog, agos atach chi fyddai'n gallu apelio at y naill garfan a'r llall. Byddai'n rhaid anghofio am bapur uchelael ar gyfer yr AB1's bondigrybwyll a chreu papur mwy cyrraeddadwy a darllenadwy. Fyddai hynny ddim yn golygu gostwng safonau, ond byddai'n gyfle i greu arddull newyddiadurol Cymraeg newydd sy'n adlewyrchu y Gymru sydd ohoni.
Yn wleidyddol hefyd, dwi'n meddwl y byddai'n haws gwerthu syniad fel hyn ar lefel Genedlaethol dros y 2 flynedd nesaf sy'n arwain i fyny at etholiadau cynulliad 2011. Mi oedd yna bryderon mai dysgu pader wrth berson fyddai'r Byd- wedi'i anelu at garfan fach o bobl ac na fyddai'n ehangu gorwelion y Gymraeg yn ddigonol. Byddai papur newydd fyddai'n anelu at gynulleidfa sy'n cynnwys cymry cymraeg a dysgwyr da yn ymddangos yn llawer mwy cynhwysol ac ymestynol ac mi fyddai hynny'n bwysig iawn o ran ennyn cefnogaeth wleidyddol traws bleidiol.
Pe bai cwmni Dyddiol yn penderfynu dal ati fory, byddai 2 flynedd ar gael er mwyn cyflwyno'r achos dros bapur o'r fath. Hen ddigon o amser ddudwn i!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment